BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhowch hwb i’ch busnes trwy ennill £25,000!

Mae Simply Business yn rhoi £25,000 i un entrepreneur lwcus i gychwyn, tyfu neu adfywio ei fusnes bach.

I gymryd rhan, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen ar-lein yn nodi pam rydych chi’n meddwl eich bod yn haeddu’r grant.  

Mae’r beirniaid yn chwilio am y canlynol:

  • eich stori
  • breuddwyd fawr
  • effaith gymdeithasol gadarnhaol
  • arloesi
  • cynllun pendant ag ôl meddwl arno

Y dyddiad cau yw 17 Medi 2021.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Simply Business.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.