BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhowch wybod i CThEM ac ad-dalu grant Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig

Mae CThEM yn ysgrifennu at unigolion sydd wedi derbyn grantiau o dan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig ond heb gwblhau’r ffurflen dreth hunanasesu yn llawn ar gyfer 2019/20 eto. Mae’r llythyr yn rhoi manylion y camau sydd angen i hawlwyr eu cymryd.

I fod yn gymwys am grant o dan y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS), roedd yn rhaid i unigolion fod yn masnachu yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth yn 2019/20. Roedd gofyn iddynt gwblhau ffurflen dreth hunanasesu treth incwm ar gyfer y flwyddyn honno, a ddylai fod wedi’i chyflwyno erbyn 31 Ionawr 2021.

Nawr, mae CThEM yn ysgrifennu at y rhai hynny a wnaeth gais am un o’r tri grant SEISS cyntaf (a gynhaliwyd rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ionawr 2021), ond nad ydynt wedi cyflwyno ffurflen 2019/20 neu lle nad oedd eu ffurflen yn cynnwys incwm o hunangyflogaeth neu bartneriaeth.

Mae’r llythyr yn esbonio bod yn rhaid i hawlwyr gyflwyno neu ddiwygio eu ffurflen dreth 2019/20 i gynnwys yr wybodaeth berthnasol o fewn 30 diwrnod o ddyddiad derbyn y llythyr, neu ad-dalu’r grantiau a dderbyniwyd yn llawn.

Nid oedd yr unigolion a roddodd y gorau i fasnachu yn 2019/20 yn gymwys am y grant ac mae’n rhaid iddynt ei ad-dalu yn llawn.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan ICAEW: HMRC contacting SEISS claimants about missing return info | ICAEW

I gael gwybod beth i’w wneud os oes angen i chi ad-dalu rhywfaint neu’r holl grant SEISS, ewch i Rhoi gwybod i CThEM ac ad-dalu grant y Cynllun Cymhorthdal Hunangyflogaeth - gov.uk (www.gov.uk)

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.