BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rydyn ni am glywed eich barn – ymgynghoriad ar y Comisiynydd Busnesau Bach

Mae ymgynghoriad wedi’i lansio gyda’r nod o roi mwy o bŵer i’r Comisiynydd Busnesau Bach fel y gall gefnogi busnesau a datrys problemau taliadau hwyr.

Mae cynigion newydd wedi’u hamlinellu gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod busnesau bach yn y DU yn cael eu talu’n brydlon

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio cael safbwyntiau ar rinweddau:

  • cryfhau gallu’r Comisiynydd Busnesau Bach i gynorthwyo busnesau bach drwy ddarparu mecanweithiau effeithiol iddynt gael iawndal, mewn perthynas â thaliadau hwyr
  • pwerau newydd arfaethedig, gan gynnwys gorchymyn busnesau i dalu’n brydlon a rhoi dirwyon os nad ydynt yn gwneud hynny, gan orchymyn cwmnïau i rannu gwybodaeth am arferion talu a’r pwerau i lansio ymchwiliadau

Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad yma a’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 24 Rhagfyr 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.