BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sbarduno Arloesi Gwyrdd: Diogelu dyfodol cerbydau dim allyriadau

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £10 miliwn i ymchwilio i dechnolegau i helpu i sicrhau arloesi ym maes cerbydau dim allyriadau yn y dyfodol, a datblygu’r technolegau hynny.

Gan fod COVID-19 wedi tarfu ar ddiwydiant y DU, mae Driving Electric Revolution, sy’n rhan o’r Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol a’r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel, yn cydweithio i fuddsoddi mewn prosiectau arloesol a fydd yn cefnogi ymgais barhaus y DU tuag at sero-net.

Mae’n rhaid i’ch prosiect:

  • allu parhau gyda’r datblygiad technoleg mewn cystadlaethau ymchwil a datblygu yn y dyfodol
  • a/neu allu codi buddsoddiad sector preifat i fynd â chanlyniad y prosiect i’r farchnad

Mae hyn yn rhan o ymdrech fwy i sbarduno’r gwaith o adfer yr economi werdd yn y sectorau trafnidiaeth, ynni a diwydiannol.

Mae’r gystadleuaeth yn cau am 11am ddydd Mercher 29 Gorffennaf 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.