BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sesiwn Briffio ar gyfer Diwydiant Amddiffyn Cymru – Y Grŵp ADS

Ym mis Mawrth 2021 cyflwynwyd y Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn a Diogelwch i’r Senedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn. Fel rhan o’r strategaeth bydd y diwydiant, y Llywodraeth a’r byd academaidd yn cydweithio’n fwy agos er mwyn sbarduno gwaith ymchwil, cynyddu buddsoddiad a hyrwyddo arloesedd.

Bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn buddsoddi dros £85 biliwn dros y pedair blynedd nesaf mewn cyfarpar a chymorth amddiffyn, ac mae’n benderfynol o gyflawni dros y Lluoedd Arfog a hefyd dros y DU gyfan.

Bydd Llywodraeth Cymru, Awyrofod Cymru a’r Grŵp ADS yn cynnal sesiwn friffio ar gyfer busnesau o bob maint yng Nghymru sydd â diddordeb mewn ymuno â’r farchnad amddiffyn a chwarae rhan fwyaf amlwg ynddi, yma a thramor.

Bydd y sesiwn ar-lein yn tynnu sylw at gyfleoedd presennol ym maes amddiffyn o fewn y DU a thramor a chyfleoedd allforio ar gyfer diwydiant Cymru gan gynnwys contractau mawr y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Gallwch hefyd ddysgu mwy am ddiwygiadau rheoleiddio Llywodraeth y DU ar gyfer caffael ym maes amddiffyn a diogelwch a chontractau un ffynhonnell.

I gael rhagCynhelir y sesiwn briffio rhwng 10am a 11.45am ar 22 Mehefin 2021.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb ewch i wefan y Grŵp ADS.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.