BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Sioe Deithiol Sefydliad Technoleg Awyrofod, Cymru – Hedfan Cynaliadwy

Fel rhan o ymgysylltu rhanbarthol y Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI) ymunwch â ni am ddiwrnod i drafod dyfodol awyrofod yng Nghymru.

Mae’r Sefydliad Technoleg Awyrofod yn cydweithio â phartneriaid yng Nghymru er mwyn cynnig cyfle i gwmnïau ymgysylltu’n uniongyrchol â thîm ATI a dysgu mwy am strategaethau’r DU ar gyfer technoleg a phortffolio, casgliadau prosiect FlyZero a chyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. 
Bydd cyfle i’r mynychwyr hefyd drefnu cyfarfod anffurfiol gydag ATI yn y prynhawn.

Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael felly byddem yn argymell eich bod yn archebu eich cyfarfod nawr. Bydd yr agenda lawn yn trafod heriau a chyfleoedd allweddol o fewn y sector. Caiff y manylion llawn eu cadarnhau yn nes at yr amser ond dyma agenda ddrafft sy’n amlinellu rhaglen fras y dydd.

Dyddiad ac amser

Dydd Llun, 13 Mehefin 2022 – 9:30am i 5pm

Lleoliad 

Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC), Heol Catsash, Caerllion NP18 1HQ

I gofrestru ar gyfer y cyfle hwn sydd ar gael am ddim, defnyddiwch y ddolen isod: 
ATI Roadshow, Wales - Sustainable Aviation Tickets, Mon 13 Jun 2022 at 09:30 | Eventbrite


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.