BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Siopa’n sâff, siopa’n garedig

Gyda lefelau’r Coronafeirws yn dal yn uchel yng Nghymru, mae Vaughan Gething yn erfyn ar siopwyr a manwerthwyr i wneud eu rhan a chadw pobl yn saff trwy wisgo gorchudd wyneb wrth siopa dan do.

Mae hyn yn ofyn cyfreithiol yng Nghymru i’r rheini sydd ddim wedi cael eu heithrio ac mae’n hanfodol i atal y feirws rhag lledaenu.

Mae lefelau’r Coronafeirws yng Nghymru yn uwch nag yn unrhyw ran arall o’r DU ac os na fydd yn dechrau gostwng yn y tair wythnos nesaf, bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru ystyried ailgyflwyno cyfyngiadau i ddod â’r feirws o dan reolaeth.

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn erfyn ar bobl yng Nghymru i barchu'r rheolau a'r cyngor diogelwch i atal lledaenu’r coronafeirws ymhellach a rhag i ragor o bobl gael eu taro’n ddifrifol sâl. Mae hyn yn cynnwys gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do fel siopau.

Diogelu Cymru yn y gwaith: Canllawiau i gyflogwyr a gweithwyrgadw’n ddiogel yn y gweithle yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Gorchuddion wyneb: canllawiau ar y mesurau i'w cymryd gan gyflogwyr a rheolwyr mangreoedd

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.