BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Stopio Siarcod Benthyg Arian Cymru

Wrth i’r argyfwng costau byw barhau, mae’n bosib y bydd mwy o bobl yn cael eu gorfodi i fynd i ddyled ac yn troi at gael benthyg gan fenthycwyr arian anghyfreithlon neu siarcod benthyg arian.

Mae benthyca arian anghyfreithlon yn drosedd, ac mae siarcod benthyg arian yn aml yn targedu pobl sy’n agored i niwed.

Mae siarcod benthyg arian yn benthyca arian ac yn codi llog ar y benthyciad heb yr awdurdod cyfreithiol. Maent yn gweithredu yn ein cymunedau gan gymryd mantais ar bobl sy’n agored i niwed yn aml.

Nid troseddwyr treisgar yw siarcod benthyg arian bob amser. Gallant ymddangos yn gyfeillgar ac yn gymwynaswr pan fyddwch mewn angen. Gallant fod yn fenthycwyr bychan sy’n manteisio ar ffrindiau neu deulu, landlord neu gyflogwr twyllodrus, cydweithiwr neu aelod o grŵp cymunedol.

Arwyddion rhybudd

Nid yw benthycwyr arian didrwydded bob amser yn hawdd eu hadnabod.
Cadwch lygad am yr arwyddion hyn, efallai y byddan nhw’n dweud wrthych eich bod yn delio ag un:

  • Ymddygiad bygythiol
  • Si ar led
  • Dim gwaith papur
  • Arian parod yn unig
  • Cymryd eiddo personol
  • Dyled sy’n cynyddu

Mae Stopio Siarcod Benthyg Arian Cymru yma i gefnogi dioddefwyr ac amddiffyn pobl rhag benthyca anghyfreithlon a throseddau cysylltiedig.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Hafan - Stop Loan Sharks Wales : Stop Loan Sharks Wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.