
Bydd Symposiwm Cyntaf Menywod Cymru mewn STEM yn mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n cyfyngu menywod ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Bydd yn dwyn ynghyd y rheini sy’n gallu rhoi newid ar waith yn y sector a’r rheini sy’n gweithio i greu amgylchedd cadarnhaol lle caiff menywod a merched eu dathlu a’u cefnogi drwy gydol eu gyrfaoedd.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
- Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip
- Dr Tara Shine, gwyddonydd amgylcheddol
Bydd gweithdai ar gael a fydd yn mynd i’r afael â’r cwestiynau canlynol:
- Beth y gellir ei wneud yn y dyfodol?
- Sut gallwn ni gefnogi menywod sy’n dychwelyd i STEM?
- Sut gallwn ni ddenu merched ifanc i’r maes STEM?
- Sut gall dynion gefnogi menywod yn y gweithle?
Bydd y digwyddiad hefyd yn lansio llwyfan mentora Menywod mewn STEM, a fydd yn galluogi cyfranogwyr i rannu eu profiadau o weithio mewn STEM a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fenywod wrth iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain.
Cynhelir y digwyddiad ar yr un pryd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ddydd Llun 16 Medi 2019, a hynny yn rhad ac am ddim.
I archebu eich lle ewch i wefan Eventbrite.