BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Tourism for All – Cwrs am ddim

Mae Tourism for All yn cynnig cwrs byr newydd am ddim, ‘So what makes you think you are not accessible?’, sy’n dangos bod y camau cyntaf i wella hygyrchedd yn gallu bod yn haws nag yr oeddech chi wedi’i feddwl.

Os ydych chi’n awyddus i dyfu’ch busnes neu ei gadw ar ei lefel bresennol, dylech feddwl am y croeso a’r gwasanaeth y gallwch eu darparu i gwsmeriaid ag anghenion o ran mynediad.

Gall gwneud rhai addasiadau eich helpu i ddiwallu anghenion mynediad eich cwsmeriaid a pharhau i ddarparu profiad gwych iddyn nhw!

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru am y cwrs: So what makes you think you are not accessible? (tourismforall.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.