Mae’r pecyn Trawsnewid Trefi yn cynnwys mesurau i gynyddu nifer yr ymwelwyr i ganol trefi drwy sicrhau bod y sector cyhoeddus yn lleoli gwasanaethau mewn lleoliadau canolog ynddynt, i fynd i’r afael ag eiddo gwag a thir diffaith a gwneud defnydd ohonynt unwaith eto, ac i wyrddu canol ein trefi.
Gallai prosiectau ar gyfer ailddatblygu a gwella canol trefi neu ardaloedd cyfagos fod yn gymwys i gael cymorth ariannol gan un neu fwy o'r canlynol:
- rhaglen targedu buddsoddiad mewn adfywio
- rhaglen adeiladu ar gyfer y dyfodol
- cronfa benthyciadau canol trefi
Enghreifftiau o brosiectau a allai fod yn gymwys i gael cymorth:
- datblygu adeiladau sydd heb eu defnyddio, sy'n wag neu sydd mewn cyflwr gwael a'u troi'n fusnesau, tai, cyfleusterau hamdden, eiddo masnachol, neu gyfleusterau cymunedol
- gwella golwg adeiladau a/neu eu hail gynllunio i'w gwneud yn fwy ymarferol
- gwella eiddo sy'n bodoli eisoes drwy gyflwyno gwasanaethau arloesol a chysylltedd, megis band eang cyflym iawn, a fydd yn denu busnesau
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.