BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Treth Deunydd Pacio Plastig: ymgynghori ar gynllunio polisi

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi penderfyniadau allweddol y mae wedi’u gwneud mewn perthynas â chynllunio’r Dreth Deunydd Pacio Plastig o ystyried ymatebion rhanddeiliaid i’r ymgynghoriad blaenorol yn 2019.

Cyfradd y dreth deunydd pacio plastig fydd £200 y dunnell o ddeunydd pacio plastig sy’n cynnwys llai na 30% o blastig wedi’i ailgylchu a bydd de-minimis blynyddol o 10 tunnell na fydd yn destun treth i fusnesau, er mwyn sicrhau nad yw’r busnesau lleiaf yn cael eu heffeithio’n anghymesur.

Yn dilyn y dystiolaeth a dderbyniwyd fel rhan o’r ymgynghoriad yn 2019, bydd y dreth yn cael ei hymestyn i fewnforio deunydd pacio plastig wedi’i lenwi er mwyn cynnal natur gystadleuol gwneuthurwyr domestig ac effeithlonrwydd y dreth wrth gynyddu’r defnydd o blastig ailgylchadwy. Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys manylion dyluniad a gweithrediad y dreth, gan gynnwys yr ystyriaeth a roddwyd i esemptiad ar gyfer mathau penodol o ddeunydd pacio meddygol.

Mae’r ymgynghoriad newydd yn darparu rhagor o wybodaeth am y meysydd hyn sydd wedi’u cyhoeddi, ac mae hefyd yn gofyn am safbwyntiau ar feysydd o ddylunio’r dreth sydd wedi’u mireinio ymhellach cyn i’r dreth gael ei rhoi ar waith ym mis Ebrill 2022.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i annog busnesau allweddol yng Nghymru, unigolion, cynghorwyr treth, cyrff masnachu a phroffesiynol a phartïon eraill sydd â buddiant i rannu eu barn a thystiolaeth. Bydd camau nesaf y gwaith yn ymwneud â chasglu tystiolaeth a gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru i ddeall yr effaith.

Mae’r ymgynghoriad yn cau am 11:45pm ar 20 Awst 2020.

Am ragor o wybodaeth ac i ymateb i’r ymgynghoriad, ewch i wefan GOV.UK.

Mae busnesau a phartïon â buddiant sydd am ymateb i’r ymgynghoriad yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer gweminar byw a gynhelir ar 28 Mai 2020 rhwng 11:30am a 12:45pm.

Bydd y gweminar yn rhoi:

  • trosolwg o gynllun y trethi
  • cyfle i drafod cynigion allweddol
  • sesiwn hawl i holi ar gyfer unrhyw gwestiynau a gyflwynir ymlaen llaw

I gofrestru ar gyfer y gweminar, e-bostiwch indirecttaxdesign.team@hmrc.gov.uk erbyn 26 Mai 2020 a chynnwys unrhyw gwestiwn sydd gennych chi.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.