Dylai pob busnes sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW bellach fod wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol (MTD) a defnyddio meddalwedd sy'n gydnaws â MTD i gadw eu cofnodion TAW a ffeilio eu ffurflenni TAW. 

Hyd yn oed os ydych chi eisoes yn cadw cofnodion digidol, rhaid i chi wirio eich bod yn defnyddio meddalwedd gydnaws i ffeilio'ch ffurflenni TAW. Mae rhestr lawn o feddalwedd sy’n gydnaws â Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW, gan gynnwys opsiynau rhad ac am ddim a chost isel, i ddewis y feddalwedd Troi Treth yn Ddigidol sy'n addas i'ch busnes chi.

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol, mae angen i chi wneud hynny cyn i chi ffeilio'ch ffurflen TAW nesaf, fel arall gallech dderbyn cosb.

Os ydych chi'n asiant, gallwch ddefnyddio’r canllaw cam wrth gam hwn i gofrestru eich cleientiaid ar gyfer MTD os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen