BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Twristiaeth Gynaliadwy ym Mharciau Cenedlaethol Cymru

Mae Archwilio Cymru am glywed gan fusnesau twristiaeth ym Mharciau Cenedlaethol Cymru a'r cyffiniau am yr her o reoli twristiaeth gynaliadwy.

Mae’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru’n enghreifftiau sy’n bwysig yn rhyngwladol o’r modd y gellir gwarchod tirluniau gweithiol. Mae cysyniad tirwedd warchodedig – ardal warchodedig y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddi – o bwys cynyddol o ran cadwraeth fyd-eang.

Fodd bynnag, gwyddom fod y newid yn yr hinsawdd yn digwydd, a gwyddom ei fod yn cael ei achosi gan ein gweithredoedd ni. Un ffordd bwysig o leihau ein heffaith ar yr hinsawdd a lleddfu’r pwysau ar leoedd, pobl a bywyd gwyllt bregus y byd yw trwy Dwristiaeth Gynaliadwy.

Nid yw hyn yn golygu atal twristiaeth. Yn hytrach, mae’n golygu cyflawni twristiaeth mewn ffyrdd sy’n gwarchod ac yn gwella ein hamgylchedd naturiol gymaint â phosibl.

Fel busnesau sy’n gweithio o fewn ac o amgylch y Parciau Cenedlaethol, mae’n bwysig bod eich llais chi wrth graidd ein hymchwil. Mae arnom eisiau clywed gennych chi i gael gwybod sut y mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol:

  • yn gweithio i gefnogi twristiaeth gynaliadwy;
  • yn ymgysylltu â chi ac yn eich cynnwys yn eu gwaith ar dwristiaeth gynaliadwy; ac 
  • yn eich cynorthwyo chi i ddod yn fwy cynaliadwy.

Dylai’r arolwg gymryd llai na 5 munud i’w gwblhau, cyflwynwch eich ymateb erbyn 20 Rhagfyr 2021 os gwelwch yn dda.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chi gysylltu â ni trwy anfon neges e-bost at Astudiaethau.Cyngor@archwilio.cymru
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.