Mae'r gystadleuaeth her iX, dan law KTN, yn cefnogi Ørsted i ganfod dulliau arloesol o ddelio â her sylweddol ac uniongyrchol sy'n deillio o ffrwd wastraff. 

Mae'r her yn chwilio am ddylunwyr ac arloeswyr a fyddai'n defnyddio'r deunydd hwn ar gyfer syniadau creadigol fel deunyddiau ar gyfer ffasiwn, ategolion, gemwaith, esgidiau, cotiau, bagiau; mae'r rhestr yn ddiddiwedd.

Efallai eich bod yn adnabod cwmni tecstilau a all droi'r PVC yn gynnyrch neu grefft arall fel gorchuddion, gorchuddion marquee/pebyll/cynhyrchion awyr agored, neu elusen sydd am wneud cynhyrchion cynaliadwy o PVC?  

Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys:

  • Basgedi beic
  • Plastigau adeiladu – pibellau/draenio, toeau, fframiau ffenestri, lloriau
  • Prosesu neu weithgynhyrchu plastig
  •  Pecynnau ar gyfer pethau heblaw bwyd (DS: ni ellir defnyddio'r radd hon o PVC mewn pecynnau bwyd)
  • Nwyddau ysgrifennu
  • Inswleiddiad ceblau a gwifrau

Gall y busnes sydd â'r ateb mwyaf addawol, a ddewisir gan berchennog yr her, gael cyfle masnachol i wireddu ei ateb a chael cymorth gan KTN a rhwydwaith ehangach Innovate UK.

Mae croeso i bob syniad, cyflwynwch eich syniadau cynaliadwy heddiw!

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan KTN

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen