
Bydd Wythnos Cymru yn Llundain yn cael ei chynnal yn ystod wythnos Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain. Digwyddiad blynyddol yw hwn, lle cynhelir gweithgareddau a digwyddiadau i ddathlu a hybu popeth sy’n wych am Gymru.
Mae’n gyfle i sefydliadau Cymreig hybu eu cynnyrch a’u gwasanaethau, a datblygu cynulleidfaoedd, partneriaethau a chysylltiadau newydd yn Llundain.
Mae calendr o dros 100 o ddigwyddiadau wedi’i drefnu rhwng 22 Chwefror ac 8 Mawrth 2020, gyda chyfleoedd gwych ar gyfer arddangoswyr a noddwyr.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Wythnos Cymru yn Llundain.