BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Dysgu yn y Gwaith 2023

Cynhelir Wythnos Dysgu yn y Gwaith rhwng 15 a 21 Mai 2023 a'r thema eleni yw ‘Create the Future’  a chaiff ei harwain yn genedlaethol gan Campaign for Learning.

Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn ddigwyddiad blynyddol unigryw i feithrin diwylliannau dysgu yn y gwaith. Ei nod yw rhoi sylw i bwysigrwydd a manteision dysgu a datblygu parhaus. 

Bob blwyddyn, mae miloedd o sefydliadau'n cynnal ymgyrchoedd a gweithgareddau bywiog, creadigol sy'n hyrwyddo diwylliant dysgu, yn ysgogi chwilfrydedd, yn cefnogi nodau sefydliadol ac yn ennyn diddordeb gweithwyr mewn dysgu.

Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn cynnal eu Hwythnos Dysgu yn y Gwaith yn ystod y dyddiadau cenedlaethol.

Fodd bynnag, os oes amser gwell i'ch sefydliad a'i weithwyr, gallwch ddefnyddio'r adnoddau rhad ac am ddim i gynnal yr wythnos ar ddyddiad gwahanol. Y peth pwysicaf yw bod Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn cael ei lunio i weithio i'ch sefydliad chi, gan gynnwys pan fydd yn digwydd. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Start Here (learningatworkweek.com)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pobl i feithrin sgiliau a hyder i ddod o hyd i waith ac aros mewn gwaith. Bydd hefyd yn cefnogi cyflogwyr i ddod o hyd i'r gweithlu sydd ei angen arnynt er mwyn i'w busnesau ffynnu. I ddarganfod mwy, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i'r Porth Sgiliau i Fusnes - am gefnogaeth datblygu sgiliau | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.