BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd 2023

Mae 4.5 miliwn tunnell o fwyd bwytadwy yn cael ei daflu bob blwyddyn gan aelwydydd yn y DU. Yn syfrdanol, mae 25% o'r bwyd hwn sy'n cael ei wastraffu yn digwydd oherwydd coginio, paratoi neu weini gormod - mae hyn yn costio £3.5 biliwn i aelwydydd y DU bob blwyddyn. 

Dyna pam y mae Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yn neilltuo wythnos gyfan o weithredu i amlygu sut y gall ymddygiadau syml i leihau gwastraff bwyd arbed amser ac arian. Yn y pen draw, bydd hyn yn lleihau effaith gwastraff bwyd ar newid hinsawdd. 

Cynhelir Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd 2023 rhwng 6 a 12 Mawrth 2023.

Y thema yw ‘Win. Don’t Bin.’ a bydd yn dangos pa mor werthfawr yw bwyd yn ein bywydau, sut mae'n uno pobl a sut mae defnyddio popeth rydyn ni'n ei brynu yn arbed arian, amser a'r blaned.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:

Mae’r rhan fwyaf o wastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu yng Nghymru yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy sy’n rhoi pŵer i gartrefi a chymunedau Cymru. Pwerus iawn, ynte? Ac mae modd mynd gam ymhellach. Darllenwch fwy i gael awgrymiadau, ffeithiau a straeon pwerus Troi gwastraff bwyd yn bŵer i Gymru | Cymru yn Ailgylchu (walesrecycles.org.uk)

Dewch o hyd i ffyrdd i sicrhau bod eich busnes yn masnachu'n gyfrifol ac yn foesegol, a chofrestrwch ar gyfer ein tiwtorial ar-lein i gael cyngor ac arweiniad: BOSS: Ynglyn â Masnachu’n Gyfrifol (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.