
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ŵyl gwirfoddoli flynyddol yn y DU. Prif nodau'r Wythnos yw cydnabod, gwobrwyo a recriwtio gwirfoddolwyr.
Bydd partïon, gwibdeithiau a digwyddiadau gwobrwyo, arddangosfeydd a ffeiriau recriwtio yn cael eu cynnal ym mhob cwr o'r wlad i recriwtio, gwobrwyo a chydnabod gwirfoddolwyr.
Caiff cymunedau lleol eu hannog i gymryd rhan drwy gynnal eu parti stryd neu ddigwyddiad eu hunain, ac i fanteisio ar y cyfle hwn i gefnogi eu cymunedau lleol drwy godi arian neu wirfoddoli.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Gwelthredu Gwirfoddolwyr Cymru.