BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Hinsawdd Cymru yn dychwelyd heddiw gyda rhaglen o ddigwyddiadau rhithiol dros 5 diwrnod

Bydd yr wythnos yn dechrau gyda thrafodaeth genedlaethol ar Gynllun Sero Net Cymru a’r camau gweithredu ar y cyd sydd eu hangen i sicrhau bod Cymru’n bodloni ei thargedau. 

Ar agor i bawb, bydd y sesiynau ar-lein yn helpu pobl i ddeall beth mae Cymru eisoes wedi’i gyflawni, pa newidiadau y gallwn eu disgwyl dros y bum mlynedd nesaf, a sut gallwn lywio’r dyfodol gyda'n gilydd. 

Bydd rhaglen bob diwrnod yn ymgymryd â thema wahanol ac yn cynnwys cyflwyniadau, trafodaethau a dadlau yn cynnwys ystod eang o sefydliadau o bob cwr a chornel o Gymru. Gall mynychwyr gofrestru i wylio unrhyw un neu bob un o’r sesiynau byw, gadael sylwadau a gofyn cwestiynau fel rhan o'r gynulleidfa rithiol. 

Diwrnod 1 (Dydd Llun 22 Tachwedd): Cymru a'r byd

Diwrnod 2 (Dydd Mawrth 23 Tachwedd): Ynni ac allyriadau

Diwrnod 3 (Dydd Mercher 24 Tachwedd): Ymateb i'r argyfwng hinsawdd

Diwrnod 4 (Dydd Iau 25 Tachwedd): Natur a gwytnwch hinsawdd

Diwrnod 5 (Dydd Gwener 26 Tachwedd): Pobl a gweithredu dros yr hinsawdd

Bydd cynnwys yr holl sesiynau Wythnos Hinsawdd Cymru ar gael drwy’r dudalen Ar alw.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.