BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Wythnos Technoleg Ariannol 2022 y DU

Ymunwch ag Wythnos Technoleg Ariannol y DU rhwng 4 Ebrill a 8 Ebrill 2022, a fydd yn arddangos arloesedd mewn gwasanaethau ariannol ar y llwyfan rhyngwladol.

Mae Wythnos Technoleg Ariannol y DU yn dychwelyd fel cysyniad hybrid newydd sbon, a gallwch ddisgwyl pum diwrnod o gynnwys o safon byd gan rai o’r enwau mwyaf ym myd cyllid, llywodraeth a thechnoleg.

Bydd sylfaenwyr technoleg ariannol, cyn-weithwyr banc, technolegwyr, entrepreneuriaid, buddsoddwyr, rheoleiddwyr, llunwyr polisi, gwleidyddion, academyddion a’r cyfryngau o bedwar ban byd yn dod at ei gilydd i ddysgu, trafod, dadlau a rhwydweithio.

Peidiwch â cholli’ch cyfle i fod yn rhan o’r sgwrs ac arddangos eich brand i’r byd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i  UK FinTech Week 2022 - Innovate Finance – The Voice of Global FinTech


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.