BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Canllawiau Diweddaraf ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

Mae’r canllawiau ar hawlio ar gyfer cyflogau gweithwyr drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws wedi’u diweddaru:

  • mae’r Cynllun yn cael ei ymestyn nes 31 Mawrth 2021
  • 30 Tachwedd 2020 yw’r diwrnod olaf i gyflogwyr gyflwyno neu newid ceisiadau am gyfnodau sy’n dod i ben ar neu cyn 31 Hydref 2020
  • mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau am ddiwrnodau ffyrlo ym mis Tachwedd 2020 erbyn 14 Rhagfyr 2020
  • mae’r canllawiau wedi’u diweddaru gyda manylion am wybodaeth hawlio cyflogwyr y bydd CThEM yn ei chyhoeddi
  • mae’r canllawiau ar gyfrifo faint y gallwch ei hawlio am weithwyr sydd ar ffyrlo neu sydd ar ffyrlo hyblyg wedi’u diweddaru gan esbonio gwybodaeth am ddyddiadau ac amseroedd cyfnodau hawlio
  • mae’r iaith wedi’i newid i ddatgan yn glir na allwch hawlio am unrhyw ddyddiau ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020 os yw’r gweithiwr ffyrlo yn cyflawni cyfnod rhybudd cytundebol neu statudol ar gyfer cyfnodau hawlio sy’n cychwyn ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020
  • mae’r meini prawf cymhwysedd wedi’u nodi’n gliriach i weithwyr sy’n cael eu diswyddo ar neu ar ôl 23 Medi 2020 ac a ailgyflogwyd gennych chi a gweithwyr sydd â chontract tymor sefydlog a ddaeth i ben ar ôl 23 Medi 2020

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.