BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cod Plant

Cod ymarfer diogelu data ar gyfer gwasanaethau ar-lein yw’r Cod Plant (neu’r Cod Cynllunio Addas i Oedran i roi ei deitl ffurfiol) sy’n gymwys i “wasanaethau cymdeithas wybodaeth sy’n debygol o gael eu cyrchu gan blant” yn y DU.

Mae hyn yn cynnwys llawer o apiau, rhaglenni, teganau cysylltiedig a dyfeisiau, peiriannau chwilio, platfformau cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau ffrydio, gemau ar-lein, gwefannau newyddion neu addysgol a gwefannau sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau i ddefnyddwyr ar y rhyngrwyd. Nid yw’n cael ei gyfyngu i wasanaethau sydd wedi’u cyfeirio’n benodol at blant.

Nod y Cod yw sicrhau bod gan blant ddiogelwch sylfaenol yn awtomatig, er mwyn sicrhau eu bod wedi’u diogelu yn y byd digidol yn hytrach na chael eu diogelu rhagddo.

Dylai busnesau a sefydliadau ystyried a fyddai cynnwys eu gwefan o ddiddordeb i blentyn. Os ydych chi’n fanwerthwr ffasiwn ar-lein, er enghraifft, ydych chi’n gwerthu dillad a allai apelio i blant yn eu harddegau? Ydych chi wedi gwneud gwaith ymchwil i gadarnhau pwy yw eich cwsmeriaid?

Daeth i rym ar 2 Medi 2020 ac mae gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth gyngor, gwybodaeth ac adnoddau i helpu i sefydliadu gydymffurfio erbyn 2 Medi 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i hwb y Cod Plant ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.