BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Cynllun Cefnogi Swyddi

Bydd y Cynllun Cefnogi Swyddi newydd yn cael ei gyflwyno o 1 Tachwedd 2020 i ddiogelu swyddi lle mae busnesau yn wynebu llai o alw dros fisoedd y gaeaf yn sgil coronafeirws (COVID-19).

O dan y cynllun, a fydd yn para chwe mis, bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu at gyflogau gweithwyr sy’n gweithio llai na’u horiau arferol yn sgil gostyngiad yn y galw.

Byddwch yn parhau i dalu cyflogau am yr oriau y mae eich staff yn eu gweithio. Am yr oriau nad ydyn nhw’n gweithio, byddwch chi a Llywodraeth y DU yn talu traean o’u cyflogau arferol (trothwy o £697.92 y mis). Bydd angen i chi dalu’ch cyfran o’r cyflog ar gyfer yr oriau nad ydynt yn gweithio a’r holl gyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn statudol, o’ch cronfeydd eich hun. Mae hyn yn golygu y bydd gweithwyr yn derbyn o leiaf ddwy ran o dair o’u cyflog arferol ar gyfer yr oriau nad ydynt yn gweithio.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i weithwyr:

  • fod yn gofrestredig ar eich cyflogres PAYE ar neu cyn 23 Medi 2020, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i hysbysiad Gwybodaeth Amser Real o daliad fod wedi’i wneud mewn perthynas â’r gweithiwr dan sylw i CThEM ar neu cyn 23 Medi 2020.
  • weithio o leiaf 33% o’u horiau arferol, bydd Llywodraeth y DU yn ystyried a ddylid cynyddu’r trothwy isafswm oriau hwn ar ôl tri mis cyntaf y cynllun.

Bydd y Cynllun Cefnogi Swyddi ar gael i gyflogwyr ledled y DU hyd yn oed os nad ydych chi wedi gwneud cais yn y gorffennol o dan Gynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws sy’n dod i ben ar 31 Hydref 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i daflen ffeithiau Cynllun Cefnogi Swyddi GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.