BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol wedi’i wrthdroi

Heddiw (23 Medi 2022), mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gostyngiadau yn ystod y flwyddyn i gyfraddau Yswiriant Gwladol a chanslo’r Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel treth ar wahân. 

Dyma’r prif newidiadau: 

  • Bydd cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael eu torri 1.25 pwynt canran i gyflogeion, cyflogwyr a’r rhai hunangyflogedig, gan wrthdroi, i bob pwrpas, y cynnydd a gyflwynwyd yn Ebrill 2022 ar gyfer gweddill y flwyddyn dreth. Bydd y toriad hwn yn effeithiol o 6 Tachwedd 2022 
  • Ni fydd yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol o 1.25% a oedd i’w chyflwyno o Ebrill 2023 yn cael ei chodi ychwaith 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i National Insurance increase reversed - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.