BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y diweddaraf am y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

Mae newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws - o 1 Medi 2020 bydd y llywodraeth yn talu 70% o gyflogau gyda therfyn uchafswm o £2,187.50 am yr oriau y mae’r gweithiwr ar ffyrlo. Bydd cyflogwyr yn ychwanegu at gyflogau gweithwyr i sicrhau eu bod yn derbyn 80% (hyd at £2,500). Mae’r terfynau yn gyfrannol i’r oriau na chawsant eu gweithio.

Oni bai eich bod chi’n gwneud hawliad newydd ar gyfer gweithiwr sy’n filwr wrth gefn neu sy’n dychwelyd o seibiant statudol i rieni, gallwch ddim ond dal ati i hawlio drwy’r cynllun:

  • os ydych chi wedi rhoi’r gweithiwr ar ffyrlo yn flaenorol am 3 wythnos yn olynol rhwng 1 Mawrth a 30 Mehefin
  • os ydych chi wedi cyflwyno’ch hawliad cyn 31 Gorffennaf

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.