BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru

Mae’r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru (WCRC) yn cefnogi ac yn helpu BBaChau, busnesau cadwyn cyflenwi a sefydliadau’r trydydd sector rhag seiberdroseddau ac mae’n rhan o’r broses o gyflwyno Canolfannau Seibergadernid ledled y DU.

Trwy gydweithio â Phrifysgolion a Heddluoedd Cymru mae WCRC yn cael mynediad i’r wybodaeth leol yn ogystal â’r wybodaeth genedlaethol ddiweddaraf am seiberfygythiadau sy’n datblygu, tueddiadau troseddol, arfer gorau o ran seibergadernid a thechnolegau newydd i ddarparu canllawiau i fusnesau ar baratoi a diogelu busnesau, staff a chleientiaid rhag seiberdroseddwyr.

Mae’r Ganolfan yn cynnig amrywiaeth o becynnau aelodaeth, ac aelodaeth graidd ddi-dâl. Mae’n rhoi mynediad i amrywiaeth o adnoddau ac offer i helpu busnesau i nodi risgiau a gwendidau, yn ogystal â darparu canllawiau ar y camau y gallant eu cymryd i gynyddu eu lefelau diogelwch.

Mae’n sefydliad nid-er-elw, sy’n golygu y bydd yr holl refeniw a gynhyrchwyd yn cael ei ail-fuddsoddi er mwyn helpu i gadw busnesau’n ddiogel ledled Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan WCRC a  chysylltwch â ni


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.