
Bydd y Gronfa Archwilio Ecosicrwydd yn buddsoddi £1 miliwn mewn prosiectau a all leihau effaith amgylcheddol deunydd pecynnu, batris neu gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff drwy:
- arloesi - a allai gynnwys ymgyrch ymwybyddiaeth arloesol, technoleg, blaengaredd, proses, treial neu ddeunydd
- ymchwil - a allai gynnwys ymchwil academaidd neu ddiwydiannol i wella systemau, prosesau, seilwaith, technoleg, ymddygiad defnyddwyr neu’r defnydd o ddeunyddiau, fel y maent yn bodoli ar hyn o bryd
Mae’r Gronfa’n gobeithio cefnogi syniadau hyd at £150,000 a fydd yn mynd ymlaen i gael effaith fwy y tu hwnt i’r prosiect a gaiff ei ariannu’n wreiddiol - yn enwedig y rheini a fyddai fel arfer efallai yn ei chael hi’n anodd cael eu traed danynt i gychwyn.
Mae’r gronfa’n agored i’r canlynol:
- cwmnïau cyfyngedig
- elusennau
- cyrff a sefydliadau academaidd
- cwmnïau buddiant cymunedol
- mentrau cymdeithasol fel y’u diffinnir
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Mawrth 2019.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan The Ecosurety.