BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Gronfa Economi Gylchol

Mae WRAP Cymru’n ymwybodol bod nifer o sefydliadau’n wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i COVID-19. Fel ymateb i hyn, rydym wedi gwneud newidiadau i’r Gronfa Economi Gylchol gwerth £6.5 miliwn, sydd wedi’u cynllunio er mwyn cefnogi mwy fyth o sefydliadau yn gyflymach.

Yn ogystal ag ariannu’r defnydd o ddeunyddiau eilgylch mewn nwyddau, mae WRAP Cymru nawr yn gallu cefnogi gweithgareddau paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgynhyrchu yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchu nwyddau cynaliadwy i gynorthwyo yn y frwydr fyd-eang yn erbyn coronafeirws.

Caiff sefydliadau o unrhyw faint, sy’n gweithredu yng Nghymru, wneud cais am grant cyfalaf i fuddsoddi mewn seilwaith ac offer ar gyfer gweithgareddau cylchol cymwys. Mae grantiau ar Raddfa Fach nawr ar gael o £6,000 hyd €200,000 (uchafswm trothwy de minimis) ac mae grantiau ar Raddfa Fawr ar gael o €200,000 hyd £750,000.

Rhaid i brosiectau cymwys:

  • gynyddu’r defnydd o blastig, papur / cerdyn neu decstilau eilgylch mewn nwyddau presennol neu rai newydd (bydd prosiectau sydd am ddefnyddio deunyddiau eilgylch eraill yn cael eu hystyried fesul achos); neu 
  • ymestyn hyd oes nwyddau / deunyddiau trwy weithgareddau i’w paratoi ar gyfer ailddefnyddio, atgyweirio neu ailgynhyrchu.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Wrap Cymru.

Mae Wrap Cymru yn cynnal gweminar am ddim am 10am ddydd Iau 21 Mai 2020 i egluro’r manylion ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y gronfa.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle ewch i wefan Wrap Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.