BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud

Mae hon yn gronfa sy’n darparu cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol a achosir gan y cyfyngiadau symud cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru yn sgil COVID-19.

Diben y gronfa yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau sydd wedi’u rhoi ar waith.

Bydd y grant yn agored i geisiadau ar 28 Hydref a bydd yn cau am 5pm ar 20 Tachwedd 2020 neu pan fydd y gronfa wedi'i hymrwymo'n llawn.

Bydd y gronfa'n cael ei gweinyddu gan eich Awdurdod Lleol.

Mae’r gronfa yn cynnwys dau grant ar wahân:

  • Grant Ardrethi Annomestig Cyfyngiadau Symyd
  • Grant Dewisol Cyfyngiadau Symyd

Bydd ceisiadau’n derbyn sylw ar sail y cyntaf i’r felin. Gall hyn olygu na fydd rhai ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno yn cael eu gwerthuso, os yw’r holl gronfa wedi cael ei defnyddio.

I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ewch i dudalen Busnes Cymru COVID-19 Cymorth i Fusnesau.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.