BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt ar y Cynllun Cartrefi i Wcráin

Yn y diweddariad diweddaraf ar sefyllfa Argyfwng Wcráin, mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi diolch i’r holl aelwydydd hynny ledled Cymru sydd wedi cynnig eu cartrefi i Wcreiniaid sy’n ffoi o’r Rhyfel ac mae’n annog mwy o aelwydydd i ddarparu’r cymorth hanfodol hwn.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Gall y syniad o groesawu pobl i’ch cartref fod yn heriol. Dyma pam rydym wedi ariannu Housing Justice Cymru i ddarparu gwasanaeth Cymorth i Westeiwyr sy’n cynnwys gwybodaeth arbenigol a dibynadwy, hyfforddiant, cyngor ac arweiniad i bobl sy’n croesawu, neu’r bobl sy’n ystyried croesawu, Wcreiniaid i Gymru. Mae rhagor o wybodaeth am sesiynau a hyfforddiant ar gael ar wefan Housing Justice Cymru. Rydym hefyd yn cyhoeddi canllawiau sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd ar gyfer gwesteiwyr a noddwyr yn https://llyw.cymru/wcrain.

Mae arnom angen llawer mwy o aelwydydd o hyd i ystyried a allant ddarparu cartref i'r rhai mewn angen. Byddai hyn fel rheol yn ymrwymiad i letya am 6 i 12 mis. Os oes unrhyw un yn ystyried hyn rydym yn eu hannog i gofrestru eu diddordeb yn Cynnig cartref yng Nghymru i ffoaduriaid o Wcráin | LLYW.CYMRU, ac i fynychu un o’r sesiynau ‘Cyflwyniad i Westeio’, a hwylusir gan Housing Justice Cymru. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth i barhau â’r broses os byddwch yn penderfynu nad yw ar eich cyfer chi.

Rydym hefyd wedi ffurfio partneriaeth gydag Airbnb.org i sicrhau y gellir darparu lleoliadau brys am dymor byr iawn i atal digartrefedd. Os na allwch chi letya am fwy na 6 mis ond y gallech chi gynnig eich eiddo am hyd at 30 diwrnod ar y tro, efallai y byddwch yn gallu cyfrannu hefyd. Ewch i https://llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain a dilynwch y ddolen i blatfform Airbnb.org.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru 
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.