BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Senedd yn cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG

Mae Aelodau'r Senedd wedi cymeradwyo ehangu’r defnydd o bàs COVID y GIG i gynnwys sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru.

Yn dilyn y bleidlais bydd angen pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o ddydd Llun 15 Tachwedd 2021.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Cael eich pàs COVID y GIG.

Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo | LLYW.CYMRU - Gallwch arddangos a rhannu'r posteri hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pawb i weithio gartref lle bynnag y bo modd ac yn atgoffa pawb o'r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.