BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) eisiau barn pobl ar y system dyluniadau

Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn galw am farn pobl fel rhan o adolygiad o’r system dyluniadau i sicrhau ei fod yn parhau yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae’r system dyluniadau yn galluogi deiliaid hawliau i ddiogelu dyluniadau a gorfodi eu hawliau. Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn ceisio barn a thystiolaeth gan ddefnyddwyr y system fel y gallant sicrhau bod fframwaith dyluniadau’r DU yn gweithio ar gyfer y busnesau, defnyddwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n ei defnyddio. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall sut y gallant fanteisio ar gyfleoedd ac opsiynau hyblyg newydd, gyda’r DU bellach wedi ymadael â’r UE.

Mae’r alwad am farn yn ceisio sicrhau tystiolaeth eang ar dri phrif faes:

  • cyfleoedd newydd
  • fframwaith ar gyfer y dyfodol
  • gwell rheoleiddio

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 25 Mawrth 2022 am 11:45pm.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK

Mae cydymffurfio, dylunio a gweithgynhyrchu yn elfennau hanfodol o ddatblygu cynnyrch. Cofrestrwch ar gyfer ein tiwtorial ar y tri cham pwysig hyn o'ch taith: BOSS: Ynglŷn â Cydymffurfio, Dylunio a Gweithgynhyrchu (gov.wales)

Mae lansio cynnyrch newydd efo ei heriau, mae'r tiwtorial ar-lein hwn yn esbonio beth sy'n gysylltiedig â lansio cynnyrch newydd a bydd yn canolbwyntio ar y gwahanol gamau adolygu sydd eu hangen i sicrhau bod y cynnyrch yn barod ar gyfer y farchnad: BOSS: Ynglŷn â Rhyddhau Cynnyrch Newydd (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.