BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Y wybodaeth ddiweddaraf am reolaethau mewnforio ar nwyddau'r UE

Mae'r cyhoeddiad gan lywodraeth y DU ar ymagwedd newydd at reolaethau mewnforio yn cadarnhau na fydd y rheolaethau mewnforio sy'n weddill ar nwyddau'r UE yn cael eu cyflwyno eleni mwyach. Yn hytrach, bydd masnachwyr yn parhau i symud eu nwyddau o'r UE i Brydain Fawr fel y maent yn gwneud nawr.  

Bydd llywodraeth y DU nawr yn adolygu sut i weithredu'r rheolaethau hyn sy'n weddill mewn ffordd well sy'n defnyddio technolegau newydd arloesol, gyda manylion pellach i'w cyhoeddi mewn cyfundrefn reoli newydd wedi'i thargedu i ddod i rym ar ddiwedd 2023.

Yn benodol, ni fydd y rheolaethau canlynol y bwriadwyd eu cyflwyno o fis Gorffennaf 2022 ymlaen yn cael eu cyflwyno, sef: 

  • gofyniad am wiriadau Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) pellach ar fewnforion o'r UE sydd yn y gyrchfan ar hyn o bryd yn barod i gael eu symud i'r Safle Rheoli Ffiniau (BCP)  
  • gofyniad am ddatganiadau diogelwch a diogelwch ar fewnforion o'r UE  
  • gofyniad am fwy o ardystiadau iechyd a gwiriadau SPS ar gyfer mewnforion o'r UE  
  • gwaharddiadau a chyfyngiadau ar fewnforio cigoedd oer o'r UE 

Fodd bynnag, os yw busnes yn mewnforio nwyddau o'r UE i Brydain Fawr ac wedi dewis cyflwyno datganiadau diogelwch ar y symudiadau hynny, gallant barhau i wneud hynny'n wirfoddol.   

Mae CThEM yn dal i fod wedi ymrwymo i gau'r system Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF) yn unol â'r dyddiadau cyhoeddedig ac annog pawb i barhau i baratoi i symud i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Bydd CHIEF yn cau ar gyfer mewnforion ar ôl 30 Medi 2022, ac allforion ar ôl 31 Mawrth 2023. Mae'r symudiad i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau yn dal i fod ar y trywydd iawn.   

Os oes gennych gwestiwn penodol am fewnforio, allforio neu ryddhad tollau, ffoniwch ein llinell gymorth Tollau a Masnach Ryngwladol ar 0300 322 9434. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 8am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 8am i 4pm ar benwythnosau. Gallwch hefyd anfon eich cwestiynau at CThEM neu gysylltu â nhw trwy we-sgwrs.  

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Allforio yn llinell gymorth newydd i fusnesau'r DU gael atebion i gwestiynau ymarferol am allforio i Ewrop. Mae'r gwasanaeth yn 'siop un stop' ac mae'n dod â holl wybodaeth llywodraeth y DU at ei gilydd, sy'n ei gwneud yn haws i allforwyr gael gafael ar gyngor a chymorth.    
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.