BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych Chi’n Allforiwr Llwyddiannus? Os felly darllenwch yr isod...

Mae allforwyr llwyddiannus yn haeddu cael eu cydnabod, a does dim ffordd well o wneud hynny na gwneud cais am ‘Wobr y Brenin am Fenter mewn Masnach Ryngwladol’.  

Mae’r wobr hon yn rhan o gyfres ehangach o wobrau sy’n dathlu ac yn cydnabod perfformiad eithriadol gan fusnesau a leolir yn y DU ym meysydd masnach ryngwladol, arloesi, datblygu cynaliadwy a hyrwyddo cyfleoedd (drwy symudedd cymdeithasol).  

Y Wobr Masnach Ryngwladol yw’r wobr uchaf ei pharch yn y DU, ac anogir allforwyr llwyddiannus o’r DU a Chymru i wneud cais ar gyfer 2024. Caiff unrhyw fusnes neu sefydliad yn y DU sydd â dau gyflogai neu fwy wneud cais – ac mae 90% o’r rhai sy’n derbyn gwobrau’n fusnesau bach a chanolig.

Mae manteision derbyn Gwobr y Brenin yn amlwg, gydag enillwyr blaenorol yn nodi cynnydd yn eu masnachu rhyngwladol a’u trosiant, cyfleoedd marchnata gwell a rhagor o gydnabyddiaeth yn fyd-eang. Yn ogystal mae derbynwyr y Wobr hon yn derbyn tystysgrif swyddogol ac yn cael dangos arwyddlun y wobr am hyd at bum mlynedd, yn ogystal â chael mynediad at rwydwaith ffyniannus o enillwyr blaenorol. 

Sut i wneud cais a sut i gael rhagor o wybodaeth: 

Mae ceisiadau ar gyfer 2024 bellach ar agor, felly, dyma eich cyfle i ymuno â’r rhai o Gymru sydd wedi ennill Gwobr y Brenin yn y gorffennol.  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.