BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi'n barod am y tywydd y gaeaf hwn?

Gan ein bod i gyd yn dilyn canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol ar hyn o bryd oherwydd y coronafeirws, efallai na fydd busnesau'n gallu cynllunio fel y gaeaf diwethaf ond gall meddwl ymlaen llaw a pharatoi ar gyfer yr hyn a allai ddod yn sgil y tywydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Gall pob busnes gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn barod am dywydd gwael. Er enghraifft:

  • cofrestru i gael rhybuddion o lifogydd
  • gosod systemau diogelu rhag llifogydd
  • gwneud yn siŵr fod eich polisi yswiriant yn cynnwys difrod y bydd tywydd yn ei achosi i’ch eiddo
  • cael cynllun parhad busnes
  • gwneud copïau o'ch dogfennau yswiriant a gwybodaeth gyswllt bwysig
  • paratoi bag sy’n cynnwys eitemau hanfodol y gallwch gael gafael arno’n hawdd petai rhaid i’r adeilad gael ei wagio

Mae busnesau hefyd yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol y gallai amodau tywydd gwael rwystro staff rhag teithio i’r gwaith. Felly, dylech werthuso’r risgiau a darparu atebion ar gyfer bod yn brin o staff ar adegau felly.

I gael rhagor o wybodaeth am baratoi ar gyfer argyfyngau, ewch i wefan GOV.UK.

Mae gan wefan Weather Ready hefyd wybodaeth am baratoadau'r gaeaf i ymdopi â thywydd garw.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.