BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad ar ddatblygu model gweithredu hylendid bwyd wedi’i foderneiddio yng Nghymru

Ymgynghoriad yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar ddatblygiadau arfaethedig ar gyfer model gweithredu hylendid bwyd (FHDM) wedi’i foderneiddio.

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf: 

  • Awdurdodau Cymwys – awdurdodau lleol
  • busnesau bwyd a chyrff masnach y diwydiant 
  • sefydliadau sicrwydd trydydd parti ar gyfer diogelwch bwyd 
  • cyrff dyfarnu proffesiynol ar gyfer gweithwyr proffesiynol iechyd yr amgylchedd a safonau masnach 
  • efallai y bydd gan Undebau Llafur a grwpiau arbenigol ddiddordeb hefyd. 

Ym mis Medi 2022 cymeradwyodd Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd y prif bolisi a’r egwyddorion i werthuso llwyddiant ar gyfer FHDM wedi’i foderneiddio. Rydym nawr yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y datblygiadau arfaethedig canlynol: 

  • cynllun sgorio ymyriadau hylendid bwyd wedi’i foderneiddio 
  • dull wedi’i ddiweddaru sy’n seiliedig ar risg o ran yr amserlenni ar gyfer rheolaethau swyddogol cychwynnol mewn sefydliadau bwyd newydd, ac ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol priodol 
  • mwy o hyblygrwydd yn y dulliau a’r technegau rheolaethau swyddogol y gellir eu defnyddio i bennu lefel risg sefydliad, gan gynnwys, lle bo'n briodol, asesu o bell 
  • ehangu’r gweithgareddau y gall swyddogion, fel Swyddogion Cymorth Rheoleiddiol, nad oes ganddynt ‘gymhwyster addas’ ar gyfer hylendid bwyd eu cyflawni, os ydynt yn gymwys. 

Mae angen cyflwyno sylwadau a safbwyntiau erbyn 23:59 Dydd Gwener 30 Mehefin 2023. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i Ymgynghoriad ar ddatblygu model gweithredu hylendid bwyd wedi’i foderneiddio yng Nghymru | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.