BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad ar Farchnad Fewnol y DU

Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar fesurau newydd i ddiogelu masnach fewnol yn y DU pan fydd pwerau’n dychwelyd o’r UE ym mis Ionawr 2021.

Nod y cynigion yw sicrhau y gall y datganoli barhau i weithio i bawb; bod pob maes polisi datganoledig yn parhau yn ddatganoledig, gan gynnal sicrwydd ar gyfer busnesau drwy sicrhau bod rheolau a safonau ledled y DU yn cael eu cydnabod gan bawb, er mwyn sicrhau bod masnachu mor hawdd â phosibl i fusnesau.

Mae cyfnod ymgynghori o 4 wythnos ar agor yn awr, gan holi barn busnesau ledled 4 cenedl y DU a bydd yn dirwyn i ben ar 13 Awst 2020.

Am ragor o wybodaeth ac i ymateb i’r ymgynghoriad, ewch i wefan DBEIS.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.