BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad ar rôl y Comisiynydd Busnesau Bach

 Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ar rôl y Comisiynydd Busnesau Bach fel rhan o adolygiad statudol.

Bydd yr ymgynghoriad yn archwilio:

  • effeithiolrwydd y Comisiynydd wrth gyflawni swyddogaethau'r swyddfa
  • effaith ei waith ar wella arferion talu mewn trafodion masnachol
  • ymwybyddiaeth a defnydd o weithdrefnau datrys anghydfod amgen ymhlith busnesau bach

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 28 Ebrill 2023.

Darllenwch fwy am yr ymgynghoriad yn Small Business Commissioner: invitation for views on the statutory review 2023 - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.