BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ymgynghoriad: newidiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005

Cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 y DU yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â newidiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.

Mewn ymateb i dân Tŵr Grenfell, roedd ein Papur Gwyn ar Adeiladau mwy diogel yng Nghymru yn nodi cynigion ar gyfer diwygio deddfwriaeth yn gynhwysfawr er mwyn gwella diogelwch yr holl adeiladau preswyl aml-feddiannaeth yng Nghymru (y rheini sy’n cynnwys dwy set neu ragor o anheddau domestig), o’r cam dylunio ac adeiladu, i’r cam meddiannu a sut maen nhw’n cael eu cynnal. Nod y cynigion oedd mynd i’r afael â’r problemau a ganfuwyd yn adolygiad Hackitt, Ymchwiliadau Tŵr Grenfell a’n Grŵp Arbenigwyr Diogelwch Adeiladau ein hunain.

At ei gilydd, roedd cefnogaeth gyffredinol i gynigion ein Papur Gwyn. Roeddem yn cydnabod yn ein hymateb i’r ymgynghoriad, fodd bynnag, fod cwmpas ein trefn diogelwch adeiladau newydd arfaethedig yn eang ac y byddai’n cymryd amser i gyflawni rhai o’r diwygiadau. Byddai rhai o’r cynigion, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â’r cyfnod meddiannaeth, angen deddfwriaeth sylfaenol drwy’r Senedd, gan gynnwys ein cynigion i wella diogelwch tân yn yr adeiladau hyn. Fodd bynnag, bydd y newidiadau rydym yn eu hamlinellu yn yr ymgynghoriad hwn hefyd yn berthnasol i’r holl adeiladau annomestig y mae’r FSO yn berthnasol iddynt hefyd, o adeiladau’r gweithle ac adeiladau cyhoeddus i dai llety, cartrefi symudol (lle maen nhw’n cael eu rhentu fel llety gwyliau) a rhentu dros dro tymor byr drwy wasanaethau fel AirBnB.

Cyhoeddwyd adroddiad Cam 1 Ymchwiliad Cyhoeddus Tŵr Grenfell ym mis Hydref 2019. Daeth hyn o hyd i dystiolaeth gref mai’r rheswm pennaf dros ledaeniad cyflym y tân yn Nhŵr Grenfell oedd diffygion yn nyluniad a gosodiad y ffenestri a’r cladin allanol ar y tŵr. Gwaethygwyd hyn gan fethiant drysau tân mewnol a strwythurau eraill i wrthsefyll lledaeniad tân. Galwodd yr Ymchwiliad am newidiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (‘yr FSO’) i sicrhau bod yr elfennau hyn o flociau uchel iawn o fflatiau yn rhan o’r drefn reoleiddio.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar yr amserlen ar gyfer cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau y DU 2022 yng Nghymru ac yn gofyn am eich barn. 

Bydd y newidiadau'n effeithio ar bob safle y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn berthnasol iddo a bydd yn gosod dyletswyddau ychwanegol ar y rhai sy'n gyfrifol am ddiogelu rhag tân yn yr adeiladau hyn. 

Mae'r ymgynghoriad bellach ar agor a bydd yn cau ar 19 Mai 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol 
Cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 y DU yng Nghymru [HTML] | LLYW.CYMRU

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.