Mae’r cynllun talu newydd ar gyfer TAW ohiriedig yn agored hyd at ac yn cynnwys 21 Mehefin 2021.

Os ydych ar y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW, neu ar y Cynllun Taliadau TAW ar Gyfrif, byddwch yn cael gwahoddiad i ymuno â’r cynllun talu newydd yn hwyrach ym mis Mawrth 2021.

Mae’r cynllun newydd yn sicrhau y gallwch wneud y canlynol:

  • talu eich TAW ohiriedig mewn rhandaliadau cyfartal, yn ddi-log
  • dewis nifer y rhandaliadau, rhwng 2 a 11, (yn ddibynnol ar eich dyddiad ymuno)

Bydd y mis y byddwch yn penderfynu ymuno â’r cynllun yn pennu uchafswm nifer y rhandaliadau sydd ar gael i chi.

Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen