BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yn galw pob gweithiwr proffesiynol modurol!

Mae Institute of the Motor Industry (IMI) yn adolygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy'n cyfrannu'n uniongyrchol i gymwysterau ar gyfer y canlynol:

  • Trwsio yn dilyn damweiniau - Corff
  • Adeiladu'r Corff
  • Gweithrediadau Rhannau
  • Cymorth Wrth Ymyl y Ffordd, ac
  • Adfer Cerbydau   

Mae'r Safonau’n parhau i fod yn adnodd gwerthfawr i lywio hyfforddiant galwedigaethol, cymwysterau a phrentisiaethau. Mae'r IMI eisiau i gyflogwyr, arbenigwyr y diwydiant a rhanddeiliaid perthnasol eraill gyfrannu at yr adolygiad er mwyn sicrhau bod y Safonau’n gyfredol ac yn addas i'r diben ar gyfer y sector. 

Cynhaliwyd cyfarfodydd electronig ar Teams a chynhelir ail rownd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ar 1 a 2 Tachwedd 2022, un yng ngogledd Cymru ac un yn ne Cymru. Nid yw’r lleoliadau wedi cael eu cadarnhau eto, felly byddem yn croesawu unrhyw gynigion i'w cynnal.

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu rhwng y gwahanol lwybrau Safonau, gan dibynnu ar bwy sy'n mynychu, a bydd yn hamddenol o ran ei fformat. Darperir lluniaeth. 

Cysylltwch â Caroline Harris yn IMI drwy anfon neges e-bost at carolineh@theimi.org.uk i gofrestru eich diddordeb.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.