BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru, gweler y pwyntiau isod a allai fod o ddiddordeb i fusnesau yng Nghymru:

Argymhellion

18. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod â buddsoddiad newydd i borthladdoedd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd ar gyfer arbenigo a chydweithredu, ac i sicrhau bod porthladdoedd Cymru yn barod ar gyfer buddsoddiad.  Rydym yn galw ar Ystâd y Goron a Llywodraeth y DU i wneud y mwyaf o werth cyfleoedd datblygu'r gadwyn gyflenwi a seilwaith yng Nghymru o'u cylchoedd prydlesu.

19. Wrth i ni ddatblygu cynllun gweithredu sgiliau sero net erbyn gwanwyn 2022 byddwn yn cefnogi mwy o gydweithio rhwng y diwydiant a sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

20. Gan weithio gyda diwydiant, byddwn yn paratoi rhaglen waith i sicrhau cymaint o ynni adnewyddadwy, hyblygrwydd a storfeydd â phosibl ar safleoedd busnes a diwydiannol. Bydd y rhaglen yn edrych ar ffyrdd o gefnogi buddsoddiadau a sicrhau llai o risg.

I ddarllen yr adroddiad llawn ewch i Llyw.Cymru 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.