BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Yr Arolwg Cyn-filwyr

Mae'r Arolwg Cyn-filwyr yn cael ei gynnal gan y Swyddfa Materion Cyn-filwyr (SMC) a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Ei nod yw dysgu mwy am fywydau cymuned Lluoedd Arfog y DU, cyn-filwyr a'u teuluoedd. 

Mae Llywodraeth y DU am wneud yn siŵr mai'r DU yw'r lle gorau i gyn-filwyr fyw erbyn 2028. Mae newid eisoes wedi dechrau. Am y tro cyntaf, gwnaeth y cyfrifiad gyfrif cyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU. 

Drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn, byddwch yn ein helpu i gynhyrchu ystadegau am fywydau'r gymuned Lluoedd Arfog, Cyn-filwyr a'u teuluoedd. Bydd adrannau'r llywodraeth, cyrff cyhoeddus ac elusennau yn defnyddio canfyddiadau dienw'r arolwg hwn i wneud cynlluniau.

Gallwch gael gwybodaeth am yr arolwg, pwy all gymryd rhan a beth i'w ddisgwyl Yr Arolwg Cyn-filwyr - Office for National Statistics (ons.gov.uk)

Mae gan Fusnes Cymru'r holl wybodaeth, cyngor ac arweiniad sydd eu hangen arnoch i gynnal a thyfu eich busnes Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.