Welsh Government

I gael cymorth neu gyngor busnes

Ffoniwch 03000 6 03000

Richard Sheppard o Interceptor Solutions

Mae Richard Sheppard o Interceptor Solutions yng Nghasnewydd yn arloeswr ym maes gwefannau amlieithog – a daeth ei lwyddiant cyntaf i’w ran pan oedd yn ddim ond 14 oed, ac roedd hynny’n awgrym bod rhagor i ddod.

Cafodd Busnes Cymru air â Richard cyn iddo gychwyn ar gyflwyniad yng Nghaerdydd lle’r oedd yn egluro hanfodion LinguaSkin – meddalwedd chwyldroadol Interceptor sy’n rhoi mynediad amlieithog i wasanaethau ar-lein (cymwysiadau a safleoedd ar y we).

Agorwyd y sgwrs drwy ofyn i Richard rannu ei brofiad cyntaf o entrepreneuriaeth â ni.

“Dwi’n credu mod i wedi dechrau cael blas ar wneud arian yn sgil fy niddordeb mewn cyfrifiaduron a thechnoleg pan oeddwn i’n 14 oed. Mi wnes gyflwyno gêm roeddwn wedi’i datblygu i Which Computer – roedd yn seiliedig ar rasys cŵn defaid! – Mi gafodd ei chyhoeddi ac mi ges i £40”

Rwyf yn teimlo bod yr hyn rwyf yn ei wneud yn alwedigaeth – felly rwyf wedi bod yn lwcus mod i wedi gallu troi diddordeb yn fusnes.

“Mi es yn fy mlaen i ysgrifennu gemau eraill ar gyfer y Commodore VIC 20 a defnyddiais yr arian i brynu cyfrifiadur Spectrum 48K”

“Mae fy niddordeb pennaf wedi bod mewn meddalwedd o’r cychwyn cyntaf, ond yn dilyn yr agoriad hwn mi ges yr awydd i newid o fod yn arbenigwr cyfrifiadurol i fod yn ddyn busnes. Rwyf yn teimlo bod yr hyn rwyf yn ei wneud yn alwedigaeth – felly rwyf wedi bod yn lwcus mod i wedi gallu troi diddordeb yn fusnes.”

Pam oedd hunangyflogaeth yn apelio atoch?

“Efallai am fod fy rhieni’n rhedeg eu busnes eu hunain – gwesty bychan. Dwi ddim yn teimlo bod datblygiad gyrfaol yn rhywbeth sy’n dod yn naturiol i mi – efallai fy mod yn berson rhy ystyfnig. Er fy mod wedi cael cynnig digon o swyddi dros y blynyddoedd, ac er mod i weithio gweithio ar delerau llawrydd hefyd, am tua 10 mlynedd i gyd ac mewn llawer o wledydd gwahanol, hunangyflogaeth oedd y dewis roeddwn i’n ei ffafrio bob amser.

Mi wnes y penderfyniad mawr, symud i Fangor, a sefydlu fy musnes fy hun, Draig Technology, tua diwedd y 1990au.”

A oedd gweithio yn y gogledd yn anfantais i chi fel entrepreneur TG?

Mi faswn i’n dweud y dylech adeiladau ym mhle bynnag ydych chi – gwnewch y gorau o’r hyn sydd o’ch cwmpas

Er mai technoleg yw fy maes i, fel gydag unrhyw fusnes, rhaid i chi edrych i fyw llygaid pobl weithiau.

Mewn rhai ffyrdd, roedd lleoli’r busnes ym Mangor yn anfantais o safbwynt lleoliad, ond wedi dweud hynny, roedd yn ddelfrydol gan ei fod yn creu cyfleoedd yn yr ardal leol, fel gweithio â’r Gymraeg. Ni allai fod wedi bod yn lleoliad gwell gan nad oedd gen i ddim mo’r un gystadleuaeth am gwsmeriaid a staff ag y byddwn wedi’i brofi mewn dinas fwy yn Lloegr.

Beth oedd eich profiadau cynnar o redeg busnes go iawn?

“Dwi’n credu ei bod yn bwysig mod i’n barod i wneud colled gyda pheth o’r gwaith cynnar er mwyn sefydlu fy hun yn y farchnad. Roedd rhai o fy mhrosiectau cynnar yn cynnwys meddalwedd a oedd yn ei gwneud yn haws i fusnesau bach dendro am gontractau yn y sector cyhoeddus, ac yna system filio ar gyfer trydan.

“Roedd yn rhaid i mi deithio o gwmpas i hyrwyddo fy enw, ac weithiau roedd yn cymryd cryn dipyn o amser cyn y byddai’r gwaith yn dechrau dwyn ffrwyth, ond mi wnaeth yr ymdrech arwain at bartneriaethau pwysig yn y diwedd.

“Os gwnewch chi ymgysylltu yn y farchnad, yna mi ddaw pobl o hyd i chi.

“Mae’n bwysig eich bod yn cadw’ch enw’n fyw yng nghof pobl. Er enghraifft, pan oeddwn yn berchen ar Draig, mi aethom ati i ddatblygu rhaglen fechan a oedd yn ei gwneud yn hawdd i deipio llythyren gydag acen grom (to bach) arni. Mi oedd y rhaglen hon ar gael am ddim, ond roedd yn eistedd ar fwrdd gwaith pobl ac yn cadw enw’r rhaglen, ac enw Draig, yng ngolwg y cyhoedd.

“Mi wnaeth hyn fy helpu i wneud enw i mi fy hun, ac enw i’r cwmni, ac fel enw a oedd yn gallu cyflwyno gwybodaeth ar-lein mewn mwy nag un iaith. Roedd hefyd yn help i wneud cysylltiadau a chreu rhwydweithiau pwysig, casglu geirdaon a datblygu’r farchnad ar gyfer LinguaSkin.

“Mae cynnig pethau am ddim yn beth da weithiau. Mae’n ffordd dda o ennyn ewyllys da.

“Mae pobl yn dal i chwilio am To Bach, yn ei lwytho i lawr o hyd, ac yn cysylltu ag Interceptor yn sgil hynny.”

Penderfynodd Richard werthu Draig yn 2012, ac yn y blynyddoedd cyn hynny datblygodd le yn y farchnad ar gyfer cynnyrch tebyg i LinguaSkin, a oedd yn addasu datblygiadau ar gyfer anghenion y prynwr.

“Dywedodd y farchnad wrthym fod her ar gyfer meddalwedd Cymraeg, ac roedd cwsmeriaid â marchnadoedd rhyngwladol yn cadarnhau hyn gan fod angen iddynt allu chwarae eu cynnwys ar-lein mewn amryw o ieithoedd eraill.”

Mae’n bwysig cofio na ddylech wneud cais am grant oni bai ei fod yn ateb eich amcanion strategol eich hun – ac nid manteisio arno am ei fod ar gael. Dylech chi a’r cyllidwr rannu’r un amcanion.

Pa gymorth busnes ydych chi wedi’i gael?

“O ran cyllid o’r sector cyhoeddus, roeddwn yn ddigon ffodus i ennill Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg gan Lywodraeth Cymru.

Yn achos prosiect LinguaSkin, roedd Llywodraeth Cymru ac Interceptor yn gweddu i’w gilydd yn berffaith.

“Deuthum i wybod am y ffrwd gyllido arbennig hon drwy glywed pobl yn sôn amdani – ac mae hynny’n dangos pwysigrwydd rhwydweithiau. Oni bai am eich rhwydweithiau, gall fod yn anodd dod i wybod beth sydd ar gael.”

Share this page: 
Region: 
Conversion pixel