
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog ac Innovate UK yn chwilio am bobl ifanc rhwng 18 a 30 oed sydd â syniadau busnes y gellid eu gwireddu.
Gallai syniadau busnes olygu darganfod ateb i broblem neu ffordd wahanol o wneud pethau.
Gallent gynnwys:
-
newid rhywbeth er gwell mewn cymuned leol
-
ffordd newydd o ddefnyddio technoleg i ddatrys problem bob dydd
-
ffordd newydd o fynd i'r afael â mater amgylcheddol
Mae cymorth ar gael i arloeswyr ifanc sy’n gallu ymrwymo 15 awr yr wythnos i ddatblygu eu syniad.
Bydd angen i ymgeiswyr gofrestru ag Ymddiriedolaeth y Tywysog, lle byddant yn gallu cofrestru i fynd i un o gyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol. Mae’r digwyddiadau rhanbarthol hyn yn cael eu cynnal ledled y DU hyd at ddiwedd Mawrth 2018. Bydd y digwyddiadau hyn yn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu syniadau ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio.
Cynhelir y digwyddiad ar gyfer Cymru yng Nghaerdydd ar 5 Chwefror 2018.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Beth am fynd i dudalennau Arloesi Busnes Cymru i ddarganfod pa gymorth ac arian sydd ar gael i’ch helpu chi i arloesi.