
Os ydych chi’n cyflogi prentis dan 25 oed, does dim rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eu henillion o hyn ymlaen.
Mae’r newid yn berthnasol i Brentisiaid presennol a chyflogwyr sy’n cyflogi Prentisiaid newydd.
Dyma rai o’r manteision:
- mae bellach yn fwy o werth i gyflogwyr gyflogi prentisiaid ifanc
- mae prentisiaethau yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu wrth ennill cyflog
- gallai cyflogwyr arbed oddeutu £1,000 y flwyddyn wrth gyflogi prentis sy’n ennill £16,000
I gael rhagor o wybodaeth am y fframweithiau a’r dystiolaeth sydd ei hangen i allu cymhwyso’r rhyddhad ewch i wefan GOV.UK.