
Os ydych chi eisiau gwella eich sgiliau a'ch gwybodaeth ar draws agweddau penodol ar reoli adnoddau dynol i'ch helpu chi a'ch busnes i lwyddo, beth am gofrestru gyda BOSS i gael mynediad at y cyrsiau newydd a ganlyn:
- rheoli eich amser
- ymdopi â newid yn y gweithle
- rheoli absenoliaeth
- ymsefydlu effeithiol
- coetsio i arweinwyr
Dim ond munud neu ddau sydd ei angen i gofrestru ar gyfer cyfrif dysgu, ac fe gewch chi fynediad at amrywiaeth eang o gyrsiau, canllawiau rhyngweithiol, fideos - ac os byddwch chi'n cael anhawster, gallwch gysylltu â'r tîm cefnogi drwy'r swyddogaeth sgwrsio byw.
I greu cyfrif dysgu, ewch i wefan BOSS a dewch yn fòs gwell gyda BOSS!