
Ymddiriedolaeth elusennol yw Pitch@Palace a'i nod yw arwain, helpu a chysylltu busnesau yn eu camau cynnar â chefnogwyr posibl, gan gynnwys Prif Weithredwyr, pobl ddylanwadol, buddsoddwyr angel, mentoriaid a phartneriaid busnes.
Mae Pitch@Palace 9.0 yn chwilio am atebion arloesi i wella’r cymorth a’r amddiffyniad sydd ar gael i ddynion a menywod sy'n gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y DU, ar draws ystod o heriau.
Mae’r meysydd hyn yn cynnwys:
- perfformiad personél a hyfforddiant
- manteisio ar y twf o ran gwasanaethau meddygol ac adsefydlu
- cipio, prosesu a dadansoddi data
- sicrhau mwy o effeithlonrwydd drwy ddefnyddio gwasanaethau awtomatiaeth ac ymreolaeth
- diogelwch personol, dillad diogelwch ac estyniad dynol
- rhith realiti neu realiti estynedig ac efelychu
- rheoli logisteg
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Pitch@Palace .
I gael gwybodaeth am y cymorth a’r cyllid sydd ar gael i’ch helpu i arloesi, ewch i dudalennau Arloesi Busnes Cymru.