BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Casglu Dŵr Glawr

A yw casglu dŵr glaw yn addas i chi?

Gall gosod systemau casglu dŵr glaw ddod ag amrywiaeth o fuddiannau economaidd, yn ogystal â lleihau’r perygl o lifogydd mewn rhai ardaloedd. Mae dŵr glaw yn ddelfrydol ar gyfer llawer o ddefnyddiau, gan gynnwys systemau a chyfarpar oeri, gan fod llai o halen ynddo. Os oes angen trin y dŵr i gyrraedd safon uchel, bydd y gost cynnal a chadw flynyddol yn uwch na system sy’n defnyddio dŵr o safon isel yn unig. Ar y cyfan, mae’r systemau sydd â’r cyfnod ad-dalu cyflymaf yn defnyddio arwynebedd casglu mwy i gyflenwi galw cyson am ddŵr o ansawdd cyffredin. Mewn rhai gosodiadau masnachol, gall y cyfnod a gymer i ad-dalu am y prosiect fod mor fyr â 2-3 blynedd.

A fydd system casglu dŵr glaw yn cynnig buddiannau i’ch busnes? Dilynwch y camau hyn i weld:

Cam 1: Cyfrifwch faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio. 
Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw trwy edrych ar eich biliau dŵr diweddar – mae’n debyg y byddai’n ddefnyddiol i greu taenlen ar gyfer eich busnes gyda’ch defnydd dŵr yn ystod gwahanol dymhorau’r flwyddyn. Bydd hyn yn eich galluogi i weld effeithiau casglu dŵr glaw ar eich costau dŵr.

Cam 2: Cyfrifwch uchafswm y dŵr y gallech ei gasglu mewn blwyddyn:
Defnyddiwch yr hafaliad canlynol:

Dŵr glaw a gesglir mewn blwyddyn (Y) mewn m3 = P x A x 0.8

Lle mae P = glawiad blynyddol (mewn metrau); ac, A = ardal gasglu (mewn metrau sgwâr); 0.8 = fel arfer, dylech ddisgwyl casglu tua 80% o’r dŵr hwn bob blwyddyn, oherwydd colledion bychain trwy hidlo a glawiad isel na fydd yn cynhyrchu digon o ddŵr ffo.
 

Mae’r tabl isod yn dangos faint o ddŵr y gallech ei arbed yn seiliedig ar eich ardal gasglu. Mae data am y glawiad blynyddol ar gael ar wefan y Swyddfa Dywydd.

Image removed.

Cam 3: Cyfrifo’r gost
Gwiriwch eich biliau dŵr i weld faint yr ydych yn ei dalu am eich dŵr a faint y gallech ei arbed trwy ddefnyddio dŵr glaw yn ei le.

Beth ddylech chi ei ystyried cyn gosod systemau casglu dŵr glaw?

Ansawdd y dŵr
Wrth ystyried gosod system casglu dŵr glaw, rhaid i chi feddwl am ansawdd y dŵr a’r defnydd y byddwch yn ei wneud ohono. Er enghraifft, bydd angen llawer o ddŵr o ansawdd uchel ar ffatri prosesu bwyd, ond bydd angen llai o driniaeth cyn ei ddefnyddio fel dŵr ar gyfer toiledau staff a gerddi.

Storio – tanciau a phibelli 
Pan fydd lefelau ac ansawdd y dŵr a fydd ei angen yn hysbys, dylech benderfynu ar leoliad i storio’r dŵr glaw ac addasiadau i’ch pibelli glaw presennol.

AWGRYM: Os ydych chi’n bwriadu cysylltu’r system dŵr glaw i’r gwaith plymio presennol, bydd yn rhaid atal unrhyw ddŵr a gesglir rhag cael ei wthio’n ôl yn ddamweiniol i’r brif system. Dylai eich plymwr allu eich cynghori ar y lleoliadau gorau i osod mesurau i amddiffyn rhag ôl-lifiad.

Hefyd, meddyliwch am ddiogelwch pobl eraill; defnyddiwch arwyddion i ddangos ansawdd y dŵr os yw ar gael trwy dap. Os yn briodol, dylid defnyddio ffitiadau ar dapiau na ellir eu cyfnewid am ffitiadau tapiau cyflenwad tref safonol.

Ni fydd rhedeg allan o ddŵr yn achos pryder – bydd cysylltiad â’r prif gyflenwad yn sicrhau bod dŵr ar gael pan fydd dŵr glaw yn isel. Bydd tanc mawr yn eich galluogi i storio mwy o ddŵr ar ôl cawodydd trwm, sy’n cynyddu’r arbedion, ond byddant yn ddrutach i’w prynu. Dylech hefyd ystyried lleoliad y tanc yn ofalus; mae’r opsiynau’n cynnwys o dan neu uwchben y ddaear.

Yn ddelfrydol, dylid cael cydbwysedd, lle mae dŵr o adegau gwlypaf y flwyddyn yn cael ei gasglu heb i’r tanc orlifo. Mae llawer o gwmnïau a all eich helpu i ddatblygu systemau casglu dŵr glaw sy’n unswydd ar eich cyfer chi: ceir manylion ar wefan yr UK Rainwater Harvesting Association (UKRHA).

Yn ôl yr UKRHA, mae dros 400 o systemau casglu glaw yn cael eu gosod yn y DU bob blwyddyn. Gyda phris dŵr yn codi, mae casglu dŵr glaw yn rhywbeth sy’n dod yn fwy a mwy ymarferol. Yn y DU mae’r glawiad yn weddol gyson trwy gydol y flwyddyn, sy’n golygu bod llai o ofod heb ei ddefnyddio mewn tanciau storio, sy’n gwneud prosiectau casglu dŵr glaw yn fwy atyniadol fyth yn y DU. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan UKRHA.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.